This plugin hasn’t been tested with the latest 3 major releases of WordPress. It may no longer be maintained or supported and may have compatibility issues when used with more recent versions of WordPress.

Gwirydd Sillafu Cymraeg

Description

Dangoswch awgrymiadau sillafu a gramadeg wrth gyhoeddi yn y Gymraeg gyda WordPress.

Datblygwyd yr ategyn hwn ar gyfer gwasanaeth newyddion a materion cyfoes Golwg360 a chynllun cyhoeddi cymunedol Bro360 gan Iwan Standley ar ran Golwg.

Mae’n defnyddio’r gwasanaeth Cysill Ar-lein a ddarperir gan Brifysgol Bangor, er mwyn cynnig cywiriadau a gwelliannau wrth i chi ysgrifennu cofnodion o fewn golygydd WordPress. Bydd angen i chi gofrestru i greu cyfrif am ddim er mwyn defnyddio’r gwasanaeth (mae rhagor o fanylion yn yr ategyn).

Mae hefyd yn cynnig ffordd hawdd o osod toeon bach ac acenion eraill yn eich cofnod.

Mae Golwg yn falch o rannu’r adnodd hwn gyda’r gymuned gyhoeddi Cymraeg. Mae croeso i chi gynnig gwelliannau ac ailddefnyddio’r cod.

This Welsh-language spelling and grammar checker is provided by Golwg using Bangor University’s Cysill API.

Screenshots

  • Mae’r ategyn yn ychwanegu dau fotwm i’r golygydd cofnodion.
  • Defnyddiwch y botwm gwirydd i ddangos awgrymiadau sillafu a gramadeg.
  • Mae hefyd yn cynnig ffordd syml o osod llythrennau gyda thoeon bach ac acenion eraill.
  • Gallwch ddefnyddio’r gwirydd o fewn y bloc clasurol yn y golygydd blociau newydd.

FAQ

Ydi’r gwirydd yn gweithio gyda HTML a thestun wedi ei fformatio?

Ydi, os yw’r fformatio’n weddol syml.

Ydi’r gwirydd yn gweithio gyda’r golygydd blociau?

Ar hyn o bryd, mae’r gwirydd yn gweithio gyda’r golygydd clasurol, a blociau clasurol o fewn y golygydd blociau. Os ydych chi’n defnyddio’r golygydd blociau yn rheolaidd, ac am wirio testun yn y blociau sylfaenol (hynny yw, nid yr un clasurol), rhowch wybod i ni—byddai’n ddiddorol gwybod os oes galw am hyn.

Ydi’r gwirydd yn gweithio gyda rhwydwaith WordPress aml-safle?

Ydi. Gallwch fywiogi’r ategyn ar lefel y rhwydwaith, yna gosod yr allwedd API unwaith ar gyfer yr holl safleoedd yn y gosodiadau rhwydwaith. Neu, mae modd bywiogi‘r ategyn ar lefel safleoedd unigol a gosod allweddau API gwahanol iddynt.

Sut ydw i’n cofrestru i dderbyn allwedd API?

Er mwyn defnyddio’r adnodd sillafu a gramadeg, bydd angen i chi greu cyfrif ar wefan Porth Technolegau Iaith ac yna creu allwedd API ar gyfer y gwasanaeth Cysill Ar-lein.

Awgrymwn i chi beidio â dewis yr opsiwn “Bydd yr allwedd API yn cael ei defnyddio ar wefan” gan nad yw’r cyfyngiad hwn yn gweithio gyda phob porydd.

Ydi fy ngwybodaeth bersonol yn ddiogel?

Nodwch y wybodaeth bwysig hon ynglŷn â gwasanaeth Cysill Ar-lein:

Hoffem i chi fod yn ymwybodol, wrth i chi ddefnyddio Cysill Ar-lein, y bydd eich testunau yn cael eu danfon at ein gweinydd(ion) er mwyn gwirio’r sillafu a’r gramadeg. Mae Cysill Ar-lein yn cadw copïau o destunau sy’n cael eu gyrru ato er mwyn eu cynnwys o fewn corpws o destunau. Bydd y corpws hwnnw yn cyfrannu at ymchwil academaidd, gwelliannau yn Cysill a datblygiad technolegau iaith yn y dyfodol. Peidiwch â rhoi unrhyw ddeunydd cyfrinachol neu sensitif i mewn.

Reviews

Read all 1 review

Contributors & Developers

“Gwirydd Sillafu Cymraeg” is open source software. The following people have contributed to this plugin.

Contributors

Changelog

1.3

  • Mân-newidiadau.

1.2

  • Y fersiwn gyhoeddus gyntaf.